SWYDDI GWAG CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL SIR DDINBYCH
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn recriwtio i swydd newydd ar hyn o bryd. Mae’n adeg cyffrous i ymuno â’r sefydliad a chyfrannu at ddatblygu ei fentrau. Mae pob swydd yn swydd amser llawn.
Arweinydd Llesiant – Llawn amser
Mae’r disgrifiadau swydd gyda manyleb yr unigolyn a’r ffurflenni cais ynghlwm ac ar gael ar ein gwefan, y dudalen Gweithio gyda ni.
Mae gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o Ddementia ac unigolion sy'n byw gyda dementia yn un o ofynion y swydd (os nad oes gennych brofiad yn hyn, byddwch yn derbyn hyfforddiant yn y mis cyntaf).
Mae cyllid ar gyfer y swydd hon yn destun adolygiad cyllido blynyddol.
Gellir gweld ein Datganiad a Chynllun Gweithredu’r Gymraeg ar ein gwefan. Gellir gweld y Matrics Sgiliau Iaith Gymraeg ar ein gwefan.
Rydym ni’n ceisio recriwtio siaradwyr Cymraeg a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn penodi rhywun nad yw'n siaradwr Cymraeg.
Penodir yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol.
Anfonwch eich cais i office@dvsc.co.uk gan Dydd Llun 30 Medi 2019.
Disgwylir i gyfweliadau ddigwydd ddydd Mercher 16 Hydref 2019.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y swyddi hyn mae croeso i chi gysylltu gyda
Lisa Williams 01824 702 441.