Cyfle Dylanwadu - Grymuso Cymunedau yng nghyd-destun Brexit

April 18, 2019


 

 

Fel rhan o'n hymrwymiad i ddylanwadu ac ymgysylltu, rydym yn rhannu'r wybodaeth isod gyda chi.

 

Os ydych chi'n credu bod hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer trafodaeth bellach yn un o gyfarfodydd rhwydwaith neu Fforwm Aelodaeth DVSC, rhowch wybod i ni

 

 

Cyflwyniad i’r prosiect ymchwil: Grymuso Cymunedau yng nghyswllt Brexit

 

Mae Resources for Change wedi cael ei gomisiynu gan WCVA i gynnal prosiect ymchwil dan arweiniad grŵp llywio sy’n cynnwys WCVA, Llywodraeth Cymru, WEFO, Gofal, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro ac WLGA, a gyda chymorth Rhwydwaith Cefnogi'r Trydydd Sector a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.

 

Pwrpas trosfwaol yr ymchwil yw gosod y sylfeini i oleuo gwneuthurwyr polisïau ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud i gefnogi’r sector cymunedol o ran effaith Brexit.

 

Llywodraeth Cymru welodd yr angen am y gwaith i ddechrau, o ran deall sut gall y sector gefnogi cymunedau i gael mwy o rym, cyfraniad, ffyniant a chydnerthedd mewn cyd-destun pan fo gwasanaethau cymunedol (sy’n hanfodol i rymuso a chydnerthedd) eisoes dan bwysau ond yn debygol o fod dan fwy fyth o bwysau o ganlyniad i Brexit, a phan mai'r cymunedau a oedd yn tueddu i bleidleisio o blaid Brexit yw’r rhai sy’n debygol o fod yn fwyaf agored i niwed oherwydd effeithiau proses Brexit.  Mae pryder hefyd fod sylw'r drafodaeth hyd yma am effaith Brexit wedi canolbwyntio gan mwyaf ar faterion economaidd, er bod yna faterion eraill hefyd - sydd wedi’u gwyntyllu llai sy’n arwyddocaol er hynny - yn ymwneud â chymuned a chymdeithas.

 

Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar dair brif thema:

  1. I ba raddau y mae gwasanaethau cymunedol anstatudol ar gael i bobl a chymunedau

  2. Pa mor hyfyw yn ariannol yw’r sefydliadau sy’n darparu'r gwasanaethau hyn

  3. Gweithlu’r sefydliadau hyn

Rhwng canol mis Mawrth a dechrau mis Mai, bydd tîm Resources for Change yn gofyn i sefydliadau'r trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau anstatudol i gymunedau a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru i gyfrannu i'r ymchwil drwy gyfweliadau, paneli tystiolaeth, gweithdai ac arolwg ar-lein. Cyflwynir yr adroddiad i WCVA ddiwedd mis Mehefin.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â rheolwr contractau:

R4C, Irene Evison, ar irene@r4c.org.uk, 07977 591510,

neu reolwr contractau

WCVA, Jess Williams, ar jwilliams@wcva.org.uk, 02920 431712, 07714 481486.

 

Introduction to the research project: Empowering Communities in the Context of Brexit

 

Resources for Change has been commissioned by WCVA to undertake this research project, guided by a steering group comprising WCVA, Welsh Government, WEFO, Gofal, Pembrokeshire Association of Voluntary Services and WLGA, and with support from the Third Sector Support Network and the Wales Civil Society Forum on Brexit.

 

The over-arching purpose of this research is to set the foundations to inform policy makers about what needs to be done to support the community sector in relation to the impact of Brexit.

 

The need for the work was originally identified by Welsh Government, in terms of understanding how the sector can support communities to be better empowered, involved, prosperous and more resilient in a context where community services (which are vital to empowerment and resilience) are already under pressure but are likely to be even more so as a result of Brexit, and where the communities which tended to vote in favour of Brexit are those likely to be most vulnerable to the impacts of the Brexit process. There is also concern that the focus of discussion to date about the impact of Brexit has largely focussed on economic issues, although there are also less well aired – but nonetheless significant - issues for community and society.

 

The  research will focus on three main themes:

  1. The  availability of non statutory community services  to people and communities

  2. The financial viability of the organisations providing these services

  3. The workforce of these organisations

Between mid March and early May, the Resources for Change team will be asking third sector organisations providing non-statutory services to communities and other stakeholders across Wales to contribute to the research, through interviews, evidence panels, workshops and an online survey. The report will be submitted to WCVA at the end of June.

 

If you would like more information, please contact:

R4C contract manager Irene Evison on irene@r4c.org.uk, 07977 591510, or

WCVA contract manager Jess Williams on jwilliams@wcva.org.uk, 02920 431712, 07714 481486

 

Share on Facebook
Share on Twitter
Please reload

  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
Please reload

Recent Posts
Follow Us
Please reload

Search By Tags
Please reload

Archive

Elusen Gofrestredig 1054322                       Cwmni  cyfyngedig drwy warrant 3132487