Dewch i ddysgu am y Grŵp Dylanwadu’r Trydydd Sector a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed

Mae Grŵp Dylanwadu’r Trydydd Sector yn rhan o ymrwymiad Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i ddylanwadu ar ac ymgysylltu gyda’n partneriaid gwasanaethau cyhoeddus diolch i gyllid craidd gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o Gefnogi Trydydd Sector Cymru. Fe welwch aelodau’r Grŵp yma ynghyd â’r cylch gorchwyl.
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn hwyluso’r ymgysylltu a’r dylanwadu hwn ar ran y trydydd sector a gwnaethom wahodd mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer aelodaeth y Grŵp dros gyfnod pedwar mis o Ionawr 2018. Rydym ni wedi llwyddo i lenwi 5 rôl arweinydd rhwydwaith erbyn hyn.
Rydym ni’n parhau i dderbyn Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer y rhwydweithiau isod:
- Y Gymraeg a Chydraddoldebau
- Tai ac Adfywio
- Datblygu Cynaliadwy
Os hoffech fynegi diddordeb yn un o’r rolau arweinydd rhwydwaith uchod llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb, os gwelwch yn dda, ar gael trwy glicio yma, a’i hanfon i office@dvsc.co.uk
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol cysylltwch gyda mi, helenw@dvsc.co.uk neu ffoniwch 07713 997 075 a byddaf yn hapus iawn i gael sgwrs gyda chi.
Mae’r Cytundeb Trydydd Sector rhwng Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych yn caniatáu ar gyfer cyswllt rheolaidd rhwng arweinyddion rhwydwaith o’r trydydd sector yn Sir Ddinbych i ymgysylltu gyda a dylanwadu ar Gyngor Sir Ddinbych ynghylch diddordebau’r sector, a’n cyd egwyddorion ac amcanion.
Bydd y Grŵp yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr y Cyngor deirgwaith yn y flwyddyn ariannol hon (Ebrill 2017 – Mawrth 2018) gyda’r nod o ymgysylltu gyda’r Cyngor ynghylch blaenoriaethau strategol allweddol o ddiddordeb a phryder ar y cyd. Cynhelir ein cyfarfod cyntaf gyda’r Cyngor heddiw, ddydd Llun, 23 Gorffennaf.
Fodd bynnag rydym ni o’r farn y gall cyrhaeddiad a dylanwad y Grŵp hwn a’r sector yn Sir Ddinbych fynd yn llawer ehangach a chynnwys rhanddeiliaid eraill megis Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i enwi rhai yn unig.
Mae llawer o ffyrdd i chi fedru ymgysylltu gyda ni a mynegi eich barn. Mae’r wybodaeth hon yn rhoi cipolwg i chi o’r gwahanol ffyrdd y medrwch gymryd rhan. Ond os ydych chi am gael eich cynnwys yn llwyr dewch yn aelod o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a chymryd rhan yn y Fforwm Aelodaeth a dod yn rhan o fudiad dros newid yn Sir Ddinbych.
Cewch ragor o fanylion am ein gweithgareddau ymgysylltu yma. Rydym ni’n darparu diweddariadau newyddion ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol felly cofiwch danysgrifio i dderbyn diweddariadau newyddion, ein dilyn ar Trydar a’n hoffi ni ar Gweplyfr.